Geirfa
A | B | C | D | E | F | G | H | I | J | K | L | M | N | O | P | Q | R | S | T | U | V | W | X | Y | Z
P
Partneriaeth / cyllid cyfatebol
Cyllid ychwanegol a roddir ar gyfer gweithgaredd neu brosiect a gefnogir gan grant. Bydd fel arfer yn cael ei roi fel arian parod ond fe allwch hefyd ei roi fel ‘cyfraniadau ychwanegol’, megis amser staff neu wirfoddolwyr er enghraifft (gweler y diffiniad o ‘Cyfraniadau ychwanegol’). Fe all y lefel angenrheidiol o gyllid cyfatebol newid ar sail yr ariannwr a maint y grant y gwnaed cais amdano. (gweler ein taflen wybodaeth).
Proses gwneud cais
Y broses o wneud cais am arian, o’r amser y byddwch yn cyflwyno’ch cais hyd nes y daw’r canlyniad.
Prosiect
Darn o waith yr ydych yn ei gynllunio a’i gyllido. Mae ganddo ddyddiad dechrau a gorffen pendant. Mae prosiect yn rhywbeth unigryw ac sydd ar wahân i waith parhaol eich sefydliad sydd â’r nod o wneud gwahaniaeth i’ch staff, gwirfoddolwyr, y bobl sy’n gweithio i chi neu aelodau o’r gymuned.
|