|
Mae’r genethod hefyd yn derbyn cyngor anffurfiol ynghylch byw’n iach, sy’n cynnwys cefnogaeth ddeietyddol a gwybodaeth ynghylch sut i roi’r gorau i ysmygu. Amcan y prosiect yn y tymor hwy yw cael y genethod i fod yn ‘egnïol yn gorfforol’.
Pwy roddodd yr arian?
Cyngor Chwaraeon Cymru
Beth oedd y rhaglen grant?
Amrywiol
Faint o arian a roddwyd?
Cyfrannodd Cyngor Chwaraeon Cymru £10,000 fel rhan o’i raglen Merched a Genethod (darparwyd arian gan nifer o gynlluniau amrywiol y Loteri). Cafodd pob awdurdod lleol gyfle i gael cyllid 100 y cant tuag at brosiectau a fyddai’n targedu merched a genethod ysgolion uwchradd.
Ymhle mae’r prosiect wedi’i leoli?
Caerffili, Cymru
Pam fod y prosiect hwn mor dda?
Bydd y prosiect hwn yn darparu rhaglen ymarfer cysylltiedig ag iechyd ar gyfer merched ieuainc 11-18 oed mewn chwe chyfleuster yng Nghwm Rhymni Uchaf. Mae hon yn ardal Cymunedau yn Gyntaf i raddau helaeth, gyda lefelau uchel o gyni cymdeithasol ac economaidd, a’r problemau iechyd sy’n gysylltiedig ag ardal o’r fath.
Defnyddir y cyllid fel catalydd i annog merched ieuainc i gymryd rhan mewn gweithgareddau na fyddai ar gael iddynt yn lleol fel arall. Mae’n mynd â ‘byw’n iach’ i galon y cymunedau sydd ei angen fwyaf. Hefyd, bydd y grant yn darparu sgiliau i’r cymunedau lleol, ac uchelgais i ddal ati gyda’r prosiect a bod yn gyfrifol amdano yn y dyfodol.
Ble mae cael gwybodaeth bellach?
www.caerphilly.gov.uk/healthyliving/healthyliving.htm
-----
Return to Lottery Funders list
|