Arian i Bawb
|
|
|
Y math o waith a noddir
Mae'r cynllun Arian i Bawb yn ariannu prosiectau sy’n gwella cymunedau a bywydau’r bobl o’u mewn. Mae math y gwaith a mathau’r grwpiau y gellir eu hariannu yn amrywio rhwng Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru, felly dylech edrych i weld beth sydd ar gael yn eich gwlad cyn i chi ymgeisio.
Ystod maint grantiau: lleiafswm – uchafswm
Gallwch ymgeisio am unrhyw swm rhwng £300 a £10,000 gan ddibynnu ar y wlad.
Mathau o gynllun (agored / caeedig / wedi’i dargedu)
Mae Arian i Bawb yn gynllun agored wedi’i anelu at sefydliadau gwirfoddol a chymunedol, ysgolion, cynghorau plwyf neu dref, a chyrff iechyd.
Ardal ddaearyddol
Mae’n gorchuddio’r Deyrnas Unedig er bod pob gwlad yn cynnig cynllun ychydig yn wahanol
Unrhyw feysydd blaenoriaeth a negeseuon allweddol (er enghraifft, arian partneriaeth)
Mae nodau Arian i Bawb ychydig yn wahanol o fewn pob gwlad, ond maent oll wedi’u seilio ar gefnogaeth gymunedol, gwella a rhoi grym. Edrychwch ar y gwledydd unigol am fanylion pellach yn www.arianibawb.org.uk
Y broses ymgeisio (dyddiadau cau terfynol)
Gallwch ymgeisio unrhyw bryd a bydd angen i chi ddisgrifio’r prosiect y dymunwch i ni ei ariannu, sut yr ydych chi’n gwybod bod pobl yn eich cymuned angen eich prosiect, sut mae’n bodloni un neu'n fwy o'n nodau a faint y bydd yn costio.
Gallwch ymgeisio i Arian i Bawb unrhyw bryd, a gallwch lawr lwytho pecyn ymgeisio o’r wefan pa bynnag gwlad yr ydych chi’n ymgeisio ohoni.
Er mwyn cael pecyn ymgeisio neu am ragor o wybodaeth ynghylch Arian i Bawb ymwelwch â’n gwefan www.arianibawb.org.uk neu ffoniwch 0845 4 10 20 30 ar gyfer Cymru a Lloegr, 028 9044 1555 ar gyfer Gogledd Iwerddon, a 0870 240 2391 ar gyfer yr Alban.
Manylion cyswllt canolog
I gael pecyn ymgeisio, ffoniwch 0845 600 20 40, neu ewch i’n gwefan www.arianibawb.org.uk i gael mwy o wybodaeth am Arian i Bawb.
Astudiaethau achosBlack Environment Network Community Garden Forth and Tay Disabled Ramblers Heartbeat Clwb Chwaraeon a Hwyl i Bobl Dros 50 oed Prosiect Pel-droed Wallsend
Am fwy o wybodaeth ymwelwch â'r wefanwww.arianibawb.org.uk
|