Cwestiynau ac atebion
Cwestiynau
1. Mae gen i syniad am brosiect, beth ddylwn i ei wneud nesaf?
2. Beth yw arian cyfatebol ac a fydd arna i ei angen?
3. Beth fydd y cyllidwr yn ei ofyn pan fydda i’n galw?
4. Faint o amser mae’n ei gymryd i gael penderfyniad?
5. Fydda i’n llwyddiannus?
6. Ble galla i fynd am fwy o gefnogaeth?
7. Pryd caiff y grant ei dalu?
8. A ga i wneud cais i fwy nag un cyllidwr Loteri?
9. Ble galla i fynd am arian arall?
10. Beth sy’n digwydd ar ôl i mi gyflwyno fy nghais?
Mae gen i syniad am brosiect, beth ddylwn i ei wneud nesaf?
Defnyddiwch y wefan hon i ganfod y rhaglen ariannu Loteri ac/neu arianwr Loteri
mwyaf perthnasol.
Mae proses ymgeisio ffurfiol gan bob arianwr Loteri, felly unwaith rydych chi wedi
dod o hyd i’r un mwyaf addas, cysylltwch â nhw am fanylion pellach.
Brig y dudalen
Beth yw arian cyfatebol ac a fydd arna i ei angen?
Fel arfer bydd arianwyr Loteri yn disgwyl i ymgeisydd gyfrannu tuag gost y prosiect
neu ddod o hyd i gyllid ychwanegol neu gyfraniadau o ffynhonnell breifat neu ffynhonnell arall. Arian
fydd y cyfraniad fel arfer, ond mae’n bosib y gallwch roi rhai cyfraniadau ‘ymarferol’ weithiau, er
enghraifft amser staff neu wirfoddolwyr, deunyddiau ac ati.
Holwch eich arianwr Loteri i gael gwybod a fydd angen arian cyfatebol ar gyfer eich
prosiect a pha fathau o arian cyfatebol y byddant yn ei dderbyn. [See our information sheet on Ariannu
cyfatebol]
Brig y dudalen
Beth fydd y cyllidwr yn ei ofyn pan fydda i’n galw?
Gall arianwr ofyn amrywiaeth o gwestiynau, gan gynnwys:
- Ble rydych chi wedi’ch lleoli?
- Faint rydych chi’n gwneud cais amdano?
- Gwybodaeth am sut mae eich grŵp wedi ei ffurfio
- Beth rydych chi’n wybod amdanom ni, ydych chi wedi gweld ein gwefan neu’n pecyn gwybodaeth?
- Beth yw eich prosiect?
Mae’n bosib y gofynnir i chi lenwi ffurflen cyn-ymgeisio neu y cewch eich cyfeirio
i wefan neu swyddfa ranbarthol.
Brig y dudalen
Faint o amser y mae’n ei gymryd i gael penderfyniad?
Mae hyn yn amrywio rhwng arianwyr Loteri ac fel arfer bydd yn dibynnu ar faint y
grant a’r rhaglen ariannu. Dylech ddisgwyl i’r penderfyniad gymryd o leiaf tri mis. Mae’n llawer hirach
i rai rhaglenni ariannu. Edrychwch ar wefannau arianwyr y Loteri am fanylion pellach.
Brig y dudalen
Fydda i’n llwyddiannus?
Mae pob arianwr Loteri yn derbyn mwy o geisiadau am brosiectau da nag y mae ganddynt
o arian i’w cefnogi. Asesir eich cais yn ôl ei haeddiant ei hun ond cofiwch eich bod yn ymgeisio yn
erbyn ceisiadau eraill
Brig y dudalen
Ble galla i fynd am fwy o gefnogaeth?
Mae’r wefan hon yn gallu rhoi cyngor cyffredinol am sut i lunio cais am arian Loteri.
Mae’r adran [find place to insert Angen cymorth pellach?] wybodaeth yn cynnwys taflenni
gwybodaeth sylfaenol ac yn cysylltu gydag asiantaethau cymorth a ffynonellau gwybodaeth eraill. Cewch
enwau a manylion cyswllt yr holl arianwyr Loteri yn y rhan arianwyr Loteri. Cewch gymorth pellach
gan arianwyr Loteri neu byddant yn eich cyfeirio i’ch asiantaethau cymorth am fwy o help.
Brig y dudalen
Pryd caiff y grant ei dalu?
Mae hyn yn amrywio rhwng arianwyr Loteri ac fel arfer mae’n dibynnu ar faint eich
grant a’r rhaglen gyllido. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd yr arianwr yn egluro’r trefniadau
ar gyfer gwneud taliadau i chi.
Brig y dudalen
A ga i wneud cais i fwy nag un arianwr Loteri?
Os yw eich prosiect yn berthnasol i ddau arianwr Loteri neu fwy gallwch wneud cais
i wahanol arianwyr gefnogi gwahanol rannau o’r prosiect. Ond ni chewch wneud cais i wahanol arianwyr
am arian ar gyfer yr un costau.
Brig y dudalen
Ble galla i fynd am arian arall?
Edrychwch ar adran gymorth pellach y wefan ho Cymorth
pellach
Brig y dudalen
Beth sy’n digwydd ar ôl i mi gyflwyno fy nghais?
Unwaith y bydd yr arianwr Loteri yn derbyn eich cais, cewch lythyr yn cydnabod ei
dderbyn a rhif cyfeirnod. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich cais, cysylltwch â swyddfa
ranbarthol eich arianwr, gan ofalu fod eich rhif cyfeirnod yn barod.
Brig y dudalen
|