Yn dyfarnu arian Y Loteri Genedlaethol.

Arian y Loteri

Cymraeg | English   

Ffoniwch ni ar 0845 275 0000
Ffon testun 0845 275 0022


   
 

Cymorth pellach

 

Rydym wedi rhestru gwahanol sefydliadau ariannu ac adnoddau gwybodaeth, er gwybodaeth i chi, yn nodi ble i fynd am gymorth pellach. Nid yw’r rhestr sefydliadau ariannu’n gyflawn. Mae llawer o gynlluniau llywodraeth, ymddiriedolaethau a sefydliadau ar gael sy’n darparu arian ar gyfer achosion arbennig. Dylech bob amser wirio â’ch corff lleol perthnasol, er enghraifft eich awdurdod lleol, ynglŷn â chynlluniau grant cyfredol. 

 

Mae’r adnoddau gwybodaeth yn cynnwys detholiad o asiantaethau ail haen cenedlaethol a sefydliadau cymorth allai roi cyngor manwl i chi ar sut i wneud cais i arianwyr Loteri. Hefyd, efallai y gall y sefydliadau hyn roi cyngor i chi ar sut i gynllunio prosiect neu redeg sefydliad. Yn aml, fe’u gelwir yn Gynghorau ar gyfer y Gwasanaeth Gwirfoddol, hybiau a rhwydweithiau cymunedol, Cynghorau Gweithredu Gwirfoddol, ac ati. Yn yr adran hon, cewch enwau cyswllt y sefydliadau cymorth sydd fwyaf perthnasol i’ch prosiect fesul sector, hynny yw, y celfyddydau, treftadaeth, chwaraeon, y sector cymunedol neu’r sector cyffredinol. 

 

Dylech nodi bod yr adnoddau gwybodaeth yn canolbwyntio ar sefydliadau cymorth cenedlaethol ar gyfer y DU a Chymru. Er ein bod wedi dewis y prif adnoddau cenedlaethol ar eich cyfer, mae llawer o sefydliadau cymorth eraill i’w cael sy’n darparu cefnogaeth benodol. Os ydych yn chwilio am sefydliad helpu yn eich ardal leol, dylech siarad gyda’r sefydliad cenedlaethol a restrir yn yr adran hon, fydd efallai’n gallu eich cyfeirio at adnoddau lleol. 

 

Cyffredinol

 

Sefydliadau Ariannu

 

The government runs a range of funding programmes.

Dolen i wefan

Brig y dudalen

 

Llywodraeth Ganolog

Mae’r llywodraeth yn rhedeg ystod o raglenni ariannu.

Dolen i wefan Llywodraeth Ganolog

Brig y dudalen

 

Rhaglenni ariannu Ewropeaidd

Mae’r wefan yn cynnwys cronfa ddata o dros 400 o grantiau a benthyciadau EU.

Dolen i wefan Rhaglenni ariannu Ewropeaidd

Brig y dudalen

 

Cyllid Cymru

Sefydlwyd Cyllid Cymru gan Awdurdod Datblygu Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru ac mae’n annog busnesau bach a chanolig eu maint yng Nghymru i wireddu eu gwir botensial ar gyfer arloesed a thwf.

Dolen i wefan Cyllid Cymru

Brig y dudalen

 

Cynulliad Cymru

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnwys 60 o Aelodau a etholir ledled Cymru. Mae’r Cynulliad wedi dirprwyo llawer o’i rymoedd i’r Prif Weinidog, sy’n arwain Llywodraeth Cynulliad Cymru. Maent yn cynnig tair rhaglen grant ar gyfer Amaethyddiaeth, Busnes a Chyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio.

Dolen i wefan Cynulliad Cymru

Brig y dudalen

 

Bwrdd yr Iaith

Gymraeg Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn sefydliad statudol, a ariennir gan arian cyhoeddus. Fe’i sefydlwyd ym mis Rhagfyr 1993 o dan delerau Deddf yr Iaith Gymraeg. Ei brif swyddogaeth yw hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r iaith Gymraeg.

Dolen i wefan Bwrdd yr Iaith

Brig y dudalen

 

Ffynonellau gwybodaeth

 

Cyngor Pobl Fyddar Prydain

Cyngor Pobl Anabl Prydain yw sefydliad cenedlaethol y DU o’r Mudiad Pobl Anabl byd-eang.

Dolen i wefan Cyngor Pobl Fyddar Prydain

Brig y dudalen

 

Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr

Mae’r Comisiwn Elusennau’n darparu gwybodaeth a chyngor i sefydliadau elusengar yng Nghymru a Lloegr.

Dolen i wefan Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr

Brig y dudalen

 

Menter Gymunedol Cymru

Menter Gymunedol Cymru’yw‘r rhwydwaith ar gyfer sefydliadau ac unigolion sy’n ymroddedig i ddatblygu mentrau cymunedol yng Nghymru. Mae’n cynnwys grwpiau gwerin gwlad, sy’n gweithredu neu’n bwriadu sefydlu busnesau cymunedol, yn ogystal â chyrff sy’n eu cefnogi nhw a’r symudiad yng Nghymru.

Dolen i wefan Menter Gymunedol Cymru

Brig y dudalen

 

Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddo

l Bydd eich Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol lleol yn gallu rhoi cyngor i chi ar arian a materion eraill.

Dolen i wefan Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddo

Brig y dudalen

 

Eiddo Deallusol

Mae’n darparu gwybodaeth ar eiddo deallusol, hawlfraint, dyluniadau, breinlenni a nodau masnach.

Dolen i wefan Eiddo Deallusol

Brig y dudalen

 

Awdurdod Addysg Lleol

Gall roi gwybodaeth i chi ar arian ar gyfer addysg

Dolen i wefan Awdurdod Addysg Lleol

Brig y dudalen

 

Cyngor Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archifdai

Hon yw’r asiantaeth ddatblygu genedlaethol sy’n gweithio gydag ac ar ran amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifdai ac sy’n rhoi cyngor i’r llywodraeth ar bolisïau a blaenoriaethau ar gyfer y sector.

Dolen i wefan Cyngor Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archifdai

Brig y dudalen

 

Cymdeithas Genedlaethol Cynghorau Lleol

Mae adran cysylltiadau’r wefan yn cynnwys rhestr o gynghorau lleol sy’n gallu darparu gwybodaeth am arian yn yr ardal leol.

Dolen i wefan Cymdeithas Genedlaethol Cynghorau Lleol

Brig y dudalen

 

Social Firms

Mae ‘Social Firms Wales’ yr Asiantaeth Genedlaethol ar gyfer Datblygu Cwmnïau Cymdeithasol. Mae Cwmnïau Cymdeithasol yn ffordd o sefydlu busnesau sy’n creu swyddi â thâl ar gyfer pobl ag anableddau er mwyn iddynt allu gweithio o fewn gweithlu integredig.

Dolen i wefan Social Firms

Brig y dudalen

 

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

CGGC yw llais y sector gwirfoddol yng Nghymru. Maent yn cynrychioli ac yn ymgyrchu dros sefydliadau gwirfoddol, gwirfoddolwyr a chymunedau yng Nghymru.

Dolen i wefan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Brig y dudalen

 

Awdurdod Datblygu Cymru

Mae Awdurdod Datblygu Cymru’n gorff a noddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Hwy yw Asiantaeth Datblygu Economaidd Cymru, yn gweithio ar ran ei phobl, ac yn creu cymunedau ffyniannus drwy helpu busnesau i ddechrau, i ddatblygu ac i dyfu.

Dolen i wefan Awdurdod Datblygu Cymru

Brig y dudalen

 

Blwyddlyfr Cymru

Blwyddlyfr Cymru yw’r cyfeirlyfr blynyddol Materion Cyhoeddus yng Nghymru. Mae’n gyfeirlyfr awdurdodol, safonol ac yn grynodeb o wybodaeth ffeithiol ar gyfer bywyd cyhoeddus cyfoes yng Nghymru. Ar gyfer busnesau, llywodraeth leol, elusennau, grwpiau pwyso, newyddiadurwyr a swyddogion llywodraeth ar bob lefel. (£45 i’w brynu, ac mae ar gael mewn llawer o lyfrgelloedd lleol)

Dolen i wefan Blwyddlyfr Cymru

Brig y dudalen

 

Bwrdd yr Iaith

Gymraeg Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn sefydliad statudol, a ariennir gan arian cyhoeddus. Fe’i sefydlwyd ym mis Rhagfyr 1993 o dan delerau Deddf yr Iaith Gymraeg. Ei brif swyddogaeth yw hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r iaith Gymraeg.

Dolen i wefan Bwrdd yr Iaith

Brig y dudalen

 

Y Celfyddydau

 

Sefydliadau Ariannu

 

Arts Connection

Y fenter ariannu newydd ar gyfer arloeswyr y celfyddydau gan Ymddiriedolaeth y Tywysog ac East England Arts, sy’n dod â phobl ifanc a’r sector preifat at ei gilydd.

Dolen i wefan Arts Connection

Brig y dudalen

 

Gwobrau ar gyfer Cerddorion Ifanc

Mae’n rhoi dyfarniadau o hyd at £2,000 i blant rhwng 5 ac 18 oed â dawn gerddorol i’w helpu gyda chostau prynu offerynnau a mynychu gwersi cerdd a chyrsiau arbennig.

Dolen i wefan Gwobrau ar gyfer Cerddorion Ifanc

Brig y dudalen

 

Cyngor Crefftau

Sefydliad cenedlaethol y DU ar gyfer hyrwyddo crefftau cyfoes.

Dolen i wefan Cyngor Crefftau

Brig y dudalen

 

Celfyddydau Anabledd Cymru

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru’n ymroi i weithio gydag unigolion a sefydliadau i ddathlu amrywiaeth celfyddydau a diwylliant pobl Anabl a phobl Fyddar ac i ddatblygu cydraddoldeb ar draws holl feysydd y celfyddydau.

Dolen i wefan Celfyddydau Anabledd Cymru

Brig y dudalen

 

Sefydliad ar gyfer Chwaraeon a’r Celfyddydau

Mae’n cefnogi ystod eang o weithgareddau ble mae’n amlwg y bydd y gweithgaredd er lles y gymuned. Maent yn darparu grantiau i gymunedau, sefydliadau ac unigolion ar gyfer ystod o achosion chwaraeon ac artistig.

Dolen i wefan Sefydliad ar gyfer Chwaraeon a’r Celfyddydau

Brig y dudalen

 

Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth yr Ifanc

Mae hwn yn cynnig arian ar gyfer prosiectau cerdd yr ifanc ac yn hwyluso’r gallu i greu cerddoriaeth amrywiol o ansawdd uchel. (Wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Lloegr a’r Loteri Genedlaethol).

Dolen i wefan Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth yr Ifanc

Brig y dudalen

 

Paul Hamlyn Foundation

Mae’n darparu arian ar gyfer prosiectau sy’n ymdrin â materion anghydraddoldeb ac anfantais i bobl ifanc trwy’r celfyddydau, dysgu ac addysg.

Dolen i wefan Paul Hamlyn Foundation

Brig y dudalen

 

Sefydliad Cymdeithas Hawliau Perfformio

Mae’n cefnogi rhaglenni ariannu i hyrwyddo, creu a pherfformio cerddoriaeth o bob math. Hefyd, mae’n darparu rhai dyfarniadau ac ysgoloriaethau ar gyfer addysg a hyfforddiant cerdd.

Dolen i wefan Sefydliad Cymdeithas Hawliau Perfformio

Brig y dudalen

 

Ffynonellau gwybodaeth

 

Cyngor Celfyddydau

Gwasanaeth ar-lein dysgu a chyngor rhad ac am ddim am y celfyddydau ac adloniant sy’n rhoi cyngor o bob math am yrfaoedd yn y diwydiannau creadigol.

Dolen i wefan Cyngor Celfyddydau

Brig y dudalen

 

Hyfforddiant Celfyddydau Cymru

Hyfforddiant Celfyddydau Cymru yw asiantaeth datblygu gweithlu celfyddydau Cymru. Mae’n gweithio’n agos â Chyngor Celfyddydau Cymru ac yn cael ei ariannu ganddo. Mae’n sefydliad annibynnol sy’n darparu cyngor a chymorth i unigolion a sefydliadau sy’n gweithio yn y celfyddydau yng Nghymru.

Dolen i wefan Hyfforddiant Celfyddydau Cymru

Brig y dudalen

 

Arts and Business

Mae’n trefnu nawdd corfforaethol ar gyfer y celfyddydau ac yn datblygu partneriaethau rhwng busnesau a’r celfyddydau.

Dolen i wefan Arts and Business

Brig y dudalen

 

Association of Arts Fundraisers

Y sefydliad cenedlaethol sy’n cynnig cefnogaeth, cyngor a gwybodaeth i unrhyw un sy’n ymwneud â chodi arian ar gyfer y celfyddydau yn y DU.

Dolen i wefan Association of Arts Fundraisers

Brig y dudalen

 

British Music Information Centre

Adnodd hyrwyddo a dogfennu ar gyfer cerddoriaeth Brydeinig gyfoes.

Dolen i wefan British Music Information Centre

Brig y dudalen

 

EQ

Asiantaeth gydraddoldeb ac amrywiaeth cenedlaethol sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol.

Dolen i wefan EQ

Brig y dudalen

 

Equity

Y prif undeb llafur sy’n cynrychioli artistiaid o holl sbectrwm byd y celfyddydau ac adloniant.

Dolen i wefan Equity

Brig y dudalen

 

Fund Tracer

Mae’n darparu cysylltiadau â gwahanol ffynonellau ariannu a chefnogaeth ym maes y celfyddydau a diwylliant.

Dolen i wefan Fund Tracer

Brig y dudalen

 

Fforwm Cenedlaethol Celfyddydau

Anabledd Nod hwn yw creu cyfleoedd cyfartal ar gyfer pobl anabl ym mhob agwedd o’r celfyddydau.

Dolen i wefan Fforwm Cenedlaethol Celfyddydau

Brig y dudalen

 

Rhwydwaith Celfyddydau Gwirfoddol

Nod hwn yw hyrwyddo cyfranogiad yn y celfyddydau a chrefftau, ac mae’n darparu gwybodaeth, cyngor a hyfforddiant ar gyfer y rheiny yn y sector celfyddydau gwirfoddol.

Dolen i wefan Rhwydwaith Celfyddydau Gwirfoddol

Brig y dudalen

 

Cymuned

 

Sefydliadau Ariannu

 

Age Concern

Mae Age Concern yn darparu arian i sefydliadau gwirfoddol ar gyfer prosiectau sydd er lles y gymuned hŷn. Nid ydynt yn darparu arian ar gyfer unigolion. Mathau o grantiau sydd ar gael: Grantiau Datblygu Gwasanaethau Bach, Grantiau Bach i Glybiau a chynlluniau Cyfleoedd i Wirfoddoli.

Dolen i wefan Age Concern

Brig y dudalen

 

Ymddireidolaeth Adfywio’r Meysydd Glo

Sefydlwyd Ymddireidolaeth Adfywio’r Meysydd Glo yn 1999 ac mae’n ymroddedig i wella ansawdd bywyd i bobl yng nghymunedau glofaol Prydain.

Dolen i wefan Ymddireidolaeth Adfywio’r Meysydd Glo

Brig y dudalen

 

Comic Relief

Mae Comic Relief yn ymroi i helpu i roi terfyn ar dlodi ac anghyfiawnder cymdeithasol yn y DU ac yng ngwledydd tlotaf y byd. Mae’n cefnogi grwpiau a sefydliadau gwirfoddol ledled y DU.

Dolen i wefan Comic Relief

Brig y dudalen

 

Partneriaeth Cymunedau’n Gyntaf

Mae Cymunedau’n Gyntaf yn darparu nawdd llawn ar gyfer gweithredu gweithgareddau paratoadol a chynlluniau adeiladau gallu a gellir ei ddefnyddio at ddibenion arian cyfatebol gyda rhaglenni eraill yn y cynllun Gweithredu Cymunedol. (Yn gweithredu yn y 100 ward fwyaf difreintiedig yn unig)

Dolen i wefan Partneriaeth Cymunedau’n Gyntaf

Brig y dudalen

 

Datblygu Cymunedol Cymru

Mae CDC yn sefydliad annibynnol ar gyfer Cymru gyfan a arweinir gan ei aelodau. Ei nod yw gweithio ar draws sectorau i hyrwyddo datblygu cymunedol yng Nghymru.

Dolen i wefan Datblygu Cymunedol Cymru

Brig y dudalen

 

Cronfa Goffa Diana

Mae’r gronfa’n cefnogi gwaith yn y DU ac yn rhyngwladol. Fel arfer, mae’r Gronfa’n cynnal dau rownd grantiau yn y DU ac un rownd ryngwladol y flwyddyn.

Dolen i wefan Cronfa Goffa Diana

Brig y dudalen

 

Lloyds TSB Foundation (ledled y DU)

Ymddiriedolaeth rhoi grantiau sy’n rhoi grantiau i elusennau. Eu bwriad yw cefnogi a gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau elusengar sy’n helpu pobl, yn arbennig y rheiny sydd dan anfantais neu sy’n anabl, i chwarae rhan lawnach mewn cymunedau ledled Cymru a Lloegr.

Dolen i wefan Lloyds TSB Foundation (ledled y DU)

Brig y dudalen

 

Plant mewn angen

Mae hwn yn ariannu prosiectau sy’n cael dylanwad positif ar fywydau plant. Gall sefydliadau wneud cais yn uniongyrchol i Plant mewn Angen. Caiff grantiau ar gyfer plant unigol eu dosbarthu gan: The Frank Buttle Trust (Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr).

Dolen i wefan Plant mewn angen

Brig y dudalen

 

Ymddiriedolaeth Ysgoloriaeth y Frenhines Elisabeth

Mae’r ymddiriedolaeth yn rhoi dyfarniadau rhwng £2,000 a £15,000 i grefftwyr o bob oed i’w helpu i ddatblygu eu gyrfaoedd.

Dolen i wefan Ymddiriedolaeth Ysgoloriaeth y Frenhines Elisabeth

Brig y dudalen

 

Ymddiriedolaeth Pilgrim

Mae’r ymddiriedolaeth yn ariannu prosiectau i gefnogi’r rheiny sy’n pryderu am ddiweithdra, camddefnyddio cyffuriau, carchardai, ac adnewyddu eglwysi.

Dolen i wefan Ymddiriedolaeth Pilgrim

Brig y dudalen

 

Ymddiriedolaeth y Tywysog

Mae hwn yn darparu grantiau dechrau busnes ar gyfer pobl rhwng 18 a 30 oed.

Dolen i wefan Ymddiriedolaeth y Tywysog

Brig y dudalen

 

Ffynonellau gwybodaeth

 

CAB

Mae gwasanaeth Cyngor ar Bopeth yn helpu pobl i ddatrys eu problemau cyfreithiol, ariannol a phroblemau eraill trwy ddarparu cyngor annibynnol, cyfrinachol yn rhad ac am ddim, a thrwy ddylanwadu ar wneuthurwyr polisïau.

Dolen i wefan CAB

Brig y dudalen

 

Sefydliad Codi Arian Cymru

Mae Rhwydwaith Codwyr Arian Cymru’n cynnwys dros 500 o bobl sy’n codi arian ledled Cymru. Mae e-lythyr a gyhoeddir ddwywaith y mis yn cynnwys newyddion, dyddiadau digwyddiadau, cynghorion a ffynonellau ariannu sy’n berthnasol i Gymru.

Dolen i wefan Sefydliad Codi Arian Cymru

Brig y dudalen

 

Cyngor Ffoaduriaid

Hwn yw’r sefydliad mwyaf yn y DU sy’n gweithio gyda cheiswyr lloches a ffoaduriaid. Nid yn unig y mae’n rhoi help a chefnogaeth, ond mae hefyd yn gweithio gyda cheiswyr lloches a ffoaduriaid i sicrhau bod eu hanghenion a’u pryderon yn cael sylw.

Dolen i wefan Cyngor Ffoaduriaid

Brig y dudalen

 

Sefydliad

Eu cenhadaeth yw adeiladu cronfa’r bobl i ddyfarnu a rheoli grantiau i gymunedau. Maent yn cefnogi gweithgareddau cymunedol yng Nghymru.

Dolen i wefan Sefydliad

Brig y dudalen

 

Support 4 Learning

Mae’n darparu gwybodaeth ynglŷn â’r arian sydd ar gael i fyfyrwyr, gyda chyfeirlyfr gwobrau, cronfeydd a grantiau a manylion cyswllt perthnasol.

Dolen i wefan Support 4 Learning

Brig y dudalen

 

Treftadaeth

 

Sefydliadau Ariannu

 

All Churches Trust

Mae’n darparu grantiau i gefnogi eglwysi ac elusennau sy’n cadw treftadaeth y DU.

Dolen i wefan All Churches Trust

Brig y dudalen

 

Cadw

Mae Cadw’n cynnig grantiau ar gyfer gwneud gwaith i du allan adeiladau hanesyddol fydd yn gwella neu’n gwarchod yr ardal gadwraeth y mae’r adeilad ynddo’n sylweddol. Mae Cadw’n weithredol ar draws Cymru.

Dolen i wefan Cadw

Brig y dudalen

 

Cymal

Sefydlwyd Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru (CyMAL) ar 1 Ebrill 2004 yn is-adran bolisi newydd yn Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r is-adran newydd yn fuddsoddiad arwyddocaol gan y Cynulliad tuag at ddatblygu gwasanaethau amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd lleol sy’n bodloni anghenion y 21 ganrif.

Dolen i wefan Cymal

Brig y dudalen

 

Historic Churches Preservation Fund

Prif bwrpas yr Ymddiriedolaeth yw helpu eglwysi sydd o leiaf gan mlwydd oed lle mae angen gwaith atgyweirio ar yr adeiladwaith.

Dolen i wefan Historic Churches Preservation Fund

Brig y dudalen

 

Ymddiriedolaeth Adapt

Ei nod yw gwelliannau cyfalaf a hirdymor i gyfleusterau mynediad i leoliadau treftadaeth a’r celfyddydau ar gyfer pobl anabl.

Dolen i wefan Ymddiriedolaeth Adapt

Brig y dudalen

 

Cronfa Treftadaeth Bensaernïol

Mae’n hyrwyddo gwarchod adeiladau hanesyddol yn y DU. Mae’n cyflawni hyn trwy ddarparu cyngor, gwybodaeth a chymorth ariannol ar ffurf grantiau a benthyciadau llog isel i brosiectau y mae ymddiriedolaethau gwarchod ac elusennau eraill ledled y DU yn ymgymryd â nhw.

Dolen i wefan Cronfa Treftadaeth Bensaernïol

Brig y dudalen

 

Ymddiriedolaeth Pilgrim

Mae’r ymddiriedolaeth yn ariannu prosiectau i gefnogi’r rheiny sy’n pryderu am ddiweithdra, camddefnyddio cyffuriau, carchardai, ac adnewyddu eglwysi.

Dolen i wefan Ymddiriedolaeth Pilgrim

Brig y dudalen

 

Ffynonellau gwybodaeth

 

Cadw

Cadw yw’r asiantaeth amgylchedd hanesyddol o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru ac mae’n gyfrifol am amddiffyn, cadw a hybu gwerthfawrogiad o amgylchedd hanesyddol Cymru. Mae hyn yn cynnwys adeiladau hanesyddol, henebion, parciau a gerddi hanesyddol, tirweddau ac archeoleg danddwr.

Dolen i wefan Cadw

Brig y dudalen

 

Cymal

Sefydlwyd Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru (CyMAL) ar 1 Ebrill 2004 yn is-adran bolisi newydd yn Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r is-adran newydd yn fuddsoddiad arwyddocaol gan y Cynulliad tuag at ddatblygu gwasanaethau amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd lleol sy’n bodloni anghenion y 21 ganrif.

Dolen i wefan Cymal

Brig y dudalen

 

Amgylchedd Cymru

Mae Amgylchedd Cymru’n bartneriaeth o sefydliadau yn y sector gwirfoddol, a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Y nod yw cyfrannu at ddatblygiad cynaliadwy trwy gefnogi ac annog gweithredu gwirfoddol i warchod a gwella amgylchedd Cymru.

Dolen i wefan Amgylchedd Cymru

Brig y dudalen

 

Chwaraeon

 

Sefydliadau Ariannu

 

Sefydliad ar gyfer Chwaraeon a’r Celfyddydau

Mae’n cefnogi ystod eang o weithgareddau ble mae’n amlwg y bydd y gweithgaredd er lles y gymuned. Maent yn darparu grantiau i gymunedau, sefydliadau ac unigolion ar gyfer ystod o achosion chwaraeon ac artistig.

Dolen i wefan Sefydliad ar gyfer Chwaraeon a’r Celfyddydau

Brig y dudalen

 

Sport Relief

Mae arian Sport Relief yn cael ei wario ar draws y DU mewn partneriaeth â Sefydliadau Cymunedol.

Dolen i wefan Sport Relief

Brig y dudalen

 

SportsAid

Mae’n rhaid i ymgeiswyr gystadlu ar ran Lloegr. Maent yn canolbwyntio ar bobl rhwng 12 ac 16 oed mewn disgyblaethau i bobl ifanc abl. Gall Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol gyflwyno achosion arbennig ar gyfer athletwyr rhwng 16 ac 18 oed, ac nid oes cyfyngiad oed ar gyfer y disgyblaethau anabl.

Dolen i wefan SportsAid

Brig y dudalen

 

Sportsmatch

Cynllun cymell noddi llawr gwlad, sy’n rhoi arian cyfatebol punt am bunt i nawdd masnachol.

Dolen i wefan Sportsmatch

Brig y dudalen

 

Football Foundation

Mae’n goruchwylio buddsoddiadau mewn pêl-droed llawr gwlad.

Dolen i wefan Football Foundation

Brig y dudalen

 

Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru

Nod Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) yw sicrhau bod Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yn gweithio’n effeithiol ac yn effeithlon yng Nghymru. Mae WEFO’n rhan o Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Dolen i wefan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru

Brig y dudalen

 

Ffynonellau gwybodaeth

 

Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru

Mae Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru (FDSW) yn Gorff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol ar gyfer pob anabledd sy’n ceisio hybu a datblygu cyfleoedd chwaraeon o ansawdd.

Dolen i wefan Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru

Brig y dudalen

 

Menter Ffitrwydd Cynhwysol

Mae hwn yn hyrwyddo ac yn cefnogi cyfleodd i bobl ag anableddau gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol.

Dolen i wefan Menter Ffitrwydd Cynhwysol

Brig y dudalen

 

NSPCC (Amddiffyn plant mewn chwaraeon)

Prif elusen y DU sy’n arbenigo mewn amddiffyn plant ac atal creulondeb i blant.

Dolen i wefan NSPCC (Amddiffyn plant mewn chwaraeon)

Brig y dudalen

 

Cymdeithas Chwaraeon Cymru

Mae Cymdeithas Chwaraeon Cymru’n chwarae rhan weithredol gydag aelodau ei gorff llywodraethu i hybu ystod o fentrau ac arfer da mewn meysydd fel yr iaith Gymraeg, amddiffyn plant, rheoli risg ac yswiriant, cydraddoldeb ac amrywiaeth, a gwell ymwybyddiaeth fasnachol.

Dolen i wefan Cymdeithas Chwaraeon Cymru

 

Ariannu

 

Chwiliad ariannu

 

 

Awarding funds from The National Lottery