Yn dyfarnu arian Y Loteri Genedlaethol.

Arian y Loteri

Cymraeg | English   
 

Cyngor Celfyddydau Cymru


Arts Council Wales logo

Sefydlwyd Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC) ym 1994 trwy Siarter Frenhinol ac ef sy’n gyfrifol am gyllido a datblygu’r celfyddydau yng Nghymru.  Caiff CCC gymorth grant oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn cyllido’r celfyddydau yng Nghymru ac fel Corff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad, mae CCC yn atebol i Lywodraeth Cynulliad Cymru ynglŷn â’r modd y mae’r arian hwn yn cael ei wario.

Three children playing brass instruments. © Arts Council of Wales
Menter Pres Ifanc y Rhondda.

Yn ogystal, CCC ydy un o ddosbarthwyr arian y Loteri i’r celfyddydau yng Nghymru a’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, a leolwyd yn Llundain, sy’n dyrannu arian y Loteri Genedlaethol i CCC.  

 

Rheolir CCC gan ei Gyngor a phenodir yr aelodau hyn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.  Lleolir staff CCC mewn swyddfeydd ym Mae Colwyn, Caerfyrddin a Chaerdydd. 

 

Math o waith a gyllidir

Rhaid i’r holl geisiadau fod ar gyfer gwaith sy’n adlewyrchu blaenoriaethau cyllido Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC).  Os nad ydych yn siŵr sut mae eich prosiect yn gweddu i’r blaenoriaethau hyn mae croeso i chi drafod y mater gyda swyddog CCC.  Am fanylion llawn gweler ein “Canllawiau i Gyllid Cyngor Celfyddydau Cymru’ sydd ar gael o unrhyw un o swyddfeydd CCC neu yn ein gwefan. 

 

Ystod maint grant: lleiafswm - mwyafswm

£250 - £50,000 

 

Mathau o gynlluniau (agored/ caeedig/ a dargedir)

Grantiau Celfyddydol i Sefydliadau ac Unigolion: 

Rhaid i bob ymgeisydd drafod y prosiect arfaethedig gyda swyddog CCC.  Byddwn ond yn anfon ffurflen gais allan os fydd cynllun y prosiect wedi’i ddatblygu’n ddigonol ac yn gweddu i’n canllawiau. 

 

Cwmpas Daearyddol

Grantiau Celfyddydol ar gyfer Sefydliadau 

Er mwyn bod yn gymwys rhaid i’ch prosiect ddigwydd yng Nghymru, er y gall hyd at 15 y cant o’r costau teithio fod ar gyfer gweithgarwch mewn rhannau eraill o’r DU a gellir mynychu cyrsiau hyfforddi tu allan i Gymru. 

 

Grantiau Celfyddydol ar gyfer Unigolion  

Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i’r ymgeiswyr fyw yng Nghymru a dangos ymroddiad i Gymru.  Rhaid cynnal y prosiect arfaethedig yng Nghymru, er y gall hyd at 15 y cant o’r costau teithio fod ar gyfer gweithgarwch tu allan i Gymru a gellir mynychu cyrsiau hyfforddi tu allan i Gymru yn ogystal. 

 

Unrhyw ardaloedd o flaenoriaeth/ negeseuon allweddol (e.e. arian partneriaeth)

Yn ogystal â’r blaenoriaethau hyn byddwn yn ystyried prosiectau a gynhelir mewn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf, prosiectau a gynhelir yn y Gymraeg neu rai dwyieithog a phrosiectau sy’n hybu cyfleoedd cyfartal. 

 

Grantiau Celfyddydol ar gyfer Sefydliadau 

  • Cynhyrchu neu gefnogi rhaglen
  • cyfranogi
  • y celfyddydau a phobl ifanc
  • cynaliadwyaeth
  • hyfforddiant a datblygiad proffesiynol

 

Grantiau Celfyddydol ar gyfer Unigolion 

  • prosiectau sy’n cynnwys partneriaethau creadigol rhwng artistiaid a sefydliadau
  • prosiectau cychwynnol gan artistiaid newydd
  • prosiectau creadigol gan artistiaid sydd wedi sefydlu eu hunain
  • prosiectau creadigol a datblygu gan artistiaid anabl ac artistiaid duon a lleiafrifoedd ethnig
  • Hyfforddiant i artistiaid sydd eisiau gweithio gydag amddifadedd cymdeithasol neu gymunedau sydd mewn perygl o gael eu heithrio’n gymdeithasol
  • Prosiectau datblygiad proffesiynol i artistiaid

 

Proses Ymgeisio (dyddiadau cau ffurfiol)

Ceir cyfres o ddyddiau cau yn ystod 2005-2006 ar gyfer y gwahanol fathau o grantiau sydd ar gael.  Ewch i’n gwefan am ragor o fanylion. 

 

Manylion cyswllt canolog

Mae pob un o’n swyddfeydd yn delio ag ymholiadau ynglŷn â chyllid: 

 

Swyddfa De Cymru 

9 Stryd yr Amgueddfa 

Caerdydd  

CF10 3NX 

Ffôn: 029 2037 6525 

Ffacs: 029 2022 1447 

Ffôn testun: 029 2039 0027 

de@celfcymru.org.uk 

 

Swyddfa Canolbarth a Gorllewin Cymru  

6 Gardd Llydaw 

Lôn Jackson 

Caerfyrddin SA31 1QD 

Ffôn: 01267 234 248 

Ffacs: 01267 233 084 

Ffôn testun: 01267 223 496 

canolbarthagorllewin@celfcymru.org.uk 

 

Swyddfa Gogledd Cymru 

36 Rhodfa’r Tywysog 

Bae Colwyn  

LL29 8LA 

Ffôn: 01492 533 440 

Ffacs: 01492 533 677 

Ffôn testun: 01492 532 288 

gogledd@celfcymru.org.uk 

 


 

 


Ariannu

 

Chwiliad ariannu

 

Awarding funds from The National Lottery