Geirfa
A | B | C | D | E | F | G | H | I | J | K | L | M | N | O | P | Q | R | S | T | U | V | W | X | Y | Z
C
Canlyniad
Yr holl newidiadau ac effeithiau y gall ddigwydd o ganlyniad i’ch gwaith.
Costau cyffredinol / costau rheoli
Gelwir costau cyffredinol sefydliad ar rai adegau yn ‘gostau craidd’, sy’n adlewyrchu gwaith parhaol neu graidd eich sefydliad. (gweler y diffiniad o Gostau Cynnal).
Costau cynnal
Costau yn gysylltiedig â phrosiectau, gweithgareddau neu adnoddau presennol neu barhaol sy’n cael eu darparu gan eich grŵp, er enghraifft, costau staff presennol a biliau, taliadau rhentu rheolaidd, cynhaliaeth (gan gynnwys offer cynhaliaeth), digwyddiadau blynyddol ac ati.
Cydraddoldeb
Bydd arianwyr Loteri yn ymchwilio i weld fod pawb yn cael mynediad i’r un lefel o wasanaeth yn eich prosiect, beth bynnag fo’r ffactorau megis oedran, ethnigrwydd ac anableddau.
Cyfalaf
Eitemau sylweddol a pharhaol megis adeiladau, offer, dodrefn swyddfa, cyfrifiaduron, teganau, deunyddiau, cerbydau ac ati.
Cyfansoddiad
Ffurf o lywodraethu dogfennau sy’n disgrifio’r rheolau y mae sefydliad yn eu gweithredu.
Cyfraniadau ychwanegol
Cyfraniadau nad ydynt yn arian ar gyfer gweithredu eich prosiect. Gall hyn gynnwys oriau staff a gwirfoddolwyr ac offer neu gyfleusterau fel rhoddion.
Cyllid
Gellid defnyddio’r gair ‘cyllid’ mewn dwy ffordd:
- Gall gyfeirio at y cyllid a gynhyrchir gan brosiect/weithgaredd.
Neu
- Gall gyfeirio at gostau prosiect nad ydynt yn gysylltiedig â thaliadau sylweddol, cyfalaf, megis datblygiadau eiddo neu daliadau mawr. Gall costau cyllid gynnwys cyflogaeth, gwariant gwirfoddol, costau gweinyddol, hyfforddiant ac ati.
Cyllid craidd
Cyllid y gweithgareddau cyfredol a chostau cyffredinol eich sefydliad.
Cymhwyster
Dim ond i rai mathau o sefydliadau neu/a gweithgareddau y gall rhai o arianwyr Loteri roi cyllid iddynt. Gelwir y rheolau sy’n ymwneud â pha sefydliadau a gweithgareddau y gellid eu hariannu yn ‘cymhwyster’ - gall hefyd gael ei adnabod fel ‘cymhwyso’.
Cyn gwneud cais
Adborth y gall yr ariannwr ei gyflwyno cyn gwneud cais ffurfiol. Gellir rhoi adborth ar ôl cyflwyno cynnig, galwad ffôn neu ymholiad ysgrifenedig.
Cynaliadwyedd / cynllun ymadael
Dyfodol prosiect y tu hwnt i’r cyfnod dyfarnu arian. Mae rhai arianwyr Loteri yn rhoi mwy o bwyslais ar gynaliadwyedd ar sail maint y prosiect. Bydd cynllun ymadael yn nodi’r holl ffyrdd o gynnal y prosiect yn yr hir dymor.
Cynllun busnes
Cynllun ar wahân sy’n diffinio adnoddau angenrheidiol eich prosiect, amcanion eich prosiect/sefydliad, a sut y gallwch eu cyflawni.
|