Yn dyfarnu arian Y Loteri Genedlaethol.

Arian y Loteri

Cymraeg | English   
 

Ariannu cyfatebol a phartneriaeth

 

Arian partneriaeth yw cyfraniad a roddir i gyd-fynd â’ch cais grant.   Er enghraifft, os yw cyfanswm costau eich prosiect yn £50,000, gallech fod yn gofyn am grant o £40,000 a byddwch chi’n cyflenwi’r £10,000 sy’n weddill eich hun neu o ffynonellau eraill. 

 

Mae’r cysyniad o arian partneriaeth yn cael ei adnabod o dan amryw o enwau gwahanol: mae rhai yn ei alw yn ariannu cyfatebol, gellir hefyd ei alw yn ffynonellau ariannu allanol.   Mae’r cynsail yn gyffredinol yr un fath.  Gwiriwch gyda’r ariannwr Loteri y byddwch yn gwneud cais iddo am ei gofynion ariannu partneriaeth.   

 

At bwrpas y daflen wybodaeth yma, nid yw ariannu partneriaeth yn cyfeirio at ofyniad i chi weithio mewn partneriaeth â sefydliad arall er mwyn trosglwyddo’ch prosiect ; mae’n cyfeirio at y cyfraniad  (arian neu ymarferol) a fydd efallai angen i chi ei ddarparu â’ch cais.    

 

Faint o arian partneriaeth sy’n angenrheidiol?

Mae gan yr arianwyr Loteri gwahanol wahanol reolau ar y lefelau o ariannu partneriaeth sy’n ofynnol.  Bydd y swm o ariannu partneriaeth sy’n ofynnol yn amrywio rhwng rhaglenni ariannu, a gall maint eich cais am arian effeithio ar y lefel o ariannu partneriaeth fydd ei angen. Gwiriwch gyda’r ariannwr Loteri perthnasol fel eich bod yn gwybod beth sy’n ofynnol.  Ni fydd angen arian partneriaeth ar bob cais. 

 

Er enghraifft, o dan raglen ‘Grantiau Treftadaeth’ Cronfa Treftadaeth y Loteri, mae’n rhaid i ymgeisydd ddarparu o leiaf 25 y cant o gostau’r prosiect ei hunain os yw’r cais am grant yn £1 miliwn neu fwy, ond o dan Arian i Bawb (ar gyfer grantiau o £500 i £5,000) does dim angen i ymgeisydd ddarparu unrhyw arian partneriaeth o gwbl. 

 

Sut fath o arian partneriaeth y gellir ei ddefnyddio?

Mae nifer o ffyrdd gwahanol o ddarparu arian partneriaeth.  Gall hwn fod yn arian o’ch sefydliad yr ydych wedi ei hel; gall fod yn arian a dderbyniwyd gan gais grant arall; gall fod yn gefnogaeth o’ch awdurdod lleol; gall fod yn arian Ewropeaidd.   

 

Wrth ymgeisio, mae angen i chi ddweud o ble mae’r arian partneriaeth yn dod ac os ydyw’r arian yn ddiogel ai peidio.   

 

Os yw’ch prosiect yn cynnwys dau neu fwy o ddosbarthwyr arian y Loteri, bydd angen i chi ddangos sut fydd yr arian yn mynd ar gyfer elfennau gwbl ar wahân o’r prosiect. Ni all dau neu fwy o ddosbarthwyr arian y Loteri ariannu'r un rhan o brosiect.    

 

Beth yw cyfraniadau ymarferol?

Mae rhai arianwyr y Loteri yn hapus i beth o’r arian partneriaeth gynnwys cyfraniadau ymarferol.  Golyga hyn gyfraniadau i’r prosiect heblaw am arian, megis offer, cyfleusterau, adnoddau neu amser gwirfoddolwyr o’ch sefydliad chi neu sefydliad partner.   

 

Dylech wirio gyda’r ariannwr Loteri yr ydych yn gwneud cais iddynt ynglŷn â’u rheolau ar gyfraniadau ymarferol.  Gall y rheolau yma amrywio hefyd yn ddibynnol ar y rhaglen grant yr ydych yn ymgeisio iddi.   

 

Sut fydd arian partneriaeth yn effeithio ar ddatganiad llif arian?

Datganiad llif arian yw’r rhagolwg sy’n dangos pryd fyddwch yn derbyn eich incwm a phryd fyddwch yn ei wario.   Os yw incwm eich prosiect yn dod o nifer o ffynonellau gwahanol mae’n debygol y bydd yn cyrraedd ar amseroedd gwahanol.  Bydd cynhyrchu datganiad llif arian yn eich helpu i gynllunio i wneud yn siŵr fod digon o incwm gennych i dalu am eich costau ar bob amser.   

 

Fydd arian partneriaeth yn effeithio ar y trefniadau monitro ar gyfer fy mhrosiect?

Mae monitro sut byddwch yn gwario eich grant yn bwysig; pan fyddwch yn derbyn arian gan y Loteri, bydd ddisgwyl i chi gofnodi ei wariant.  Mae gan arianwyr gwahanol wahanol ffyrdd o fonitro sut byddwch yn gwario eich grant, felly os oes gennych fwy nag un sefydliad yn ariannu eich prosiect, mae angen i chi gynllunio ar gyfer eu gofynion monitro gwahanol.   

 

Cyllidebu

Wrth i chi wneud unrhyw gais, bydd angen i chi ddarparu dadansoddiad clir a manwl o gostau’r prosiect a sut maent yn cysylltu â’r grant rydych yn gofyn amdano.  Os oes mwy nag un sefydliad yn ariannu eich prosiect, mae’n rhaid i chi ddangos yn glir yn eich cyllideb beth a ofynnir i bob ariannwr ei ariannu.  Gweler ein taflenni gwybodaeth ar Gyllidebau am fwy o wybodaeth.   

 

Awgrymiadau

  • Gwiriwch gyda’r ariannwr Loteri yr ydych am wneud cais iddo am ei gofynion ariannu partneriaeth.  
  • Mae’r mwyafrif o ddulliau o ariannu partneriaeth yn dderbyniol (arian neu ymarferol) ond ni all dau ariannwr y Loteri ariannu'r un rhan o brosiect.  

 

Cymorth ychwanegol

Os bydd arnoch angen cymorth ychwanegol, darllenwch ein taflenni gwybodaeth eraill os gwelwch yn dda. Efallai yr hoffech gael golwg ar ein tudalen geirfa ac asiantaethau cymorth (link?) a all fod o gymorth i chi wrth ddatblygu eich prosiect.  Gall asiantaethau cymorth roi cyngor ac arweiniad i chi ar faterion cyllidebol a chodi arian.   

 

Llawrlwytho as a PDF Llawrlwytho partnershipw.pdf

 

Awarding funds from The National Lottery