Yn dyfarnu arian Y Loteri Genedlaethol.

Arian y Loteri

Cymraeg | English   
 

Chwaraeon DU


UK Sport logo

 

Mae’r dasg o arwain chwaraeon yn y DU tuag at lwyddiant ar safon byd wedi ei hymddiried i Chwaraeon DU. Mae hyn yn golygu gweithio gyda’n sefydliadau partner mewn chwaraeon i sicrhau canlyniadau ardderchog mewn chwaraeon Olympaidd a phara Olympaidd. Er mwyn llwyddo i wneud hyn, rydym yn targedu arian y Loteri at athletwyr  sy’n abl i roi perfformiadau fydd yn ennill medalau. Byddwn yn dyrannu arian i chwaraeon unigol drwy’n Rhaglen Perfformiad Safon Byd. Trwy gyfrwng ein  Rhaglen Digwyddiadau Mawr a gyllidir gydag arian y Loteri, rydym yn cydlynu cynlluniau i gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr yn y DU dros yr 20 mlynedd nesaf. Mae’r dull hirdymor hwn o gynllunio’n sicrhau fod pob chwarae’n gwneud cais am ddigwyddiadau sy’n cyd-fynd â’u rhaglenni perfformiad a bod arian priodol yn ei le i gefnogi cost cynnal digwyddiadau. 


Y math o waith a noddir

Mae Chwaraeon DU yn cefnogi sportsmyn a sportswragedd gorau’r DU i gystadlu yn erbyn athletwyr gorau’r byd, trwy ariannu cynlluniau perfformio cyrff llywodraethu chwaraeon cenedlaethol ac yn uniongyrchol i athletwyr drwy ddyfarniadau personol. Rydym hefyd yn dosbarthu arian i sefydliadau chwaraeon a sefydliadau eraill i wneud ceisiadau ac i gynnal digwyddiadau safon byd yn y DU.  

 

Ystod maint grantiau:  lleiafswm – uchafswm

Mae grantiau’n amrywio o tua  £1,000 i gefnogi athletwr unigol ar y rhaglen, i ddyfarniad pedair blynedd o £8 miliwn i un o’r chwaraeon Olympaidd sy’n cael blaenoriaeth. 

 

Mathau o gynllun

Mae dau gynllun: 

  • y Rhaglen Perfformiad Safon Byd -  cynllun caeedig ar gyfer ymgeiswyr a wahoddir
  • y Rhaglen Digwyddiadau Safon Byd -  cynllun agored gyda meini prawf penodol ac sy’n cysylltu’n uniongyrchol â pherfformiad.

 

Ardal ddaearyddol

Drwy’r DU i gyd 

 

Unrhyw feysydd blaenoriaeth a negeseuon allweddol (er enghraifft, arian  partneriaeth)

Rhaglen Perfformiad Safon Byd: Mae’r rhaglenni hyn wedi eu cynllunio i ymestyn dros gyfnod o bedair blynedd, Olympiad fel arfer, a defnyddir yr arian i dalu am wahanol feysydd paratoi gan gynnwys hyfforddiant gan rai o’r hyfforddwyr gorau yn y byd, cefnogaeth gwyddoniaeth chwaraeon a meddygaeth, rhaglenni datblygu athletwyr a chyfleusterau hyfforddi priodol. Nid yw’n ofynnol cael arian partneriaeth ymlaen llaw. 

 

Rhaglen Digwyddiadau Safon Byd: Yr unig ddigwyddiadau y bydd Chwaraeon DU yn eu hariannu yw rhai lle mae timau neu unigolion yn cynrychioli nifer o wledydd yn cystadlu ar safon Byd, Ewropeaidd, neu’r Gymanwlad. Bydd  angen arian partneriaeth ond nid oes unrhyw ganran sefydlog. Nid yw Chwaraeon DU yn gallu noddi ‘mega’ ddigwyddiadau megis y Chwaraeon Olympaidd a Chwaraeon y Gymanwlad. 

 

Y broses ymgeisio (dyddiadau cau terfynol)

Edrychwch ar ein gwefan os gwelwch yn dda  

 

Manylion cyswllt canolog

 

UK Sport 

40 Bernard Street, London 

WC1N 1ST  

Ffôn: 0 20 7211 5100 

Ymholiadau Cyffredinol: info@uksport.gov.uk 


Astudiaethau achos

World Track Cycling
Paralympic World Cup

 

Am fwy o wybodaeth ymwelwch â'r wefan

www.uksport.gov.uk

 

 


Ariannu

 

Chwiliad ariannu

 

Awarding funds from The National Lottery