Cymorth pellach
Rydym wedi rhestru gwahanol sefydliadau ariannu ac adnoddau gwybodaeth, er gwybodaeth i chi, yn nodi ble i fynd am gymorth pellach. Nid yw’r rhestr sefydliadau ariannu’n gyflawn. Mae llawer o gynlluniau llywodraeth, ymddiriedolaethau a sefydliadau ar gael sy’n darparu arian ar gyfer achosion arbennig. Dylech bob amser wirio â’ch corff lleol perthnasol, er enghraifft eich awdurdod lleol, ynglŷn â chynlluniau grant cyfredol.
Mae’r adnoddau gwybodaeth yn cynnwys detholiad o asiantaethau ail haen cenedlaethol a sefydliadau cymorth allai roi cyngor manwl i chi ar sut i wneud cais i arianwyr Loteri. Hefyd, efallai y gall y sefydliadau hyn roi cyngor i chi ar sut i gynllunio prosiect neu redeg sefydliad. Yn aml, fe’u gelwir yn Gynghorau ar gyfer y Gwasanaeth Gwirfoddol, hybiau a rhwydweithiau cymunedol, Cynghorau Gweithredu Gwirfoddol, ac ati. Yn yr adran hon, cewch enwau cyswllt y sefydliadau cymorth sydd fwyaf perthnasol i’ch prosiect fesul sector, hynny yw, y celfyddydau, treftadaeth, chwaraeon, y sector cymunedol neu’r sector cyffredinol.
Dylech nodi bod yr adnoddau gwybodaeth yn canolbwyntio ar sefydliadau cymorth cenedlaethol ar gyfer y DU a Chymru. Er ein bod wedi dewis y prif adnoddau cenedlaethol ar eich cyfer, mae llawer o sefydliadau cymorth eraill i’w cael sy’n darparu cefnogaeth benodol. Os ydych yn chwilio am sefydliad helpu yn eich ardal leol, dylech siarad gyda’r sefydliad cenedlaethol a restrir yn yr adran hon, fydd efallai’n gallu eich cyfeirio at adnoddau lleol.
Cyffredinol
Sefydliadau Ariannu The government runs a range of funding programmes. Dolen i wefan Brig y dudalen Llywodraeth Ganolog Mae’r llywodraeth yn rhedeg ystod o raglenni ariannu. Dolen i wefan Llywodraeth Ganolog Brig y dudalen Rhaglenni ariannu Ewropeaidd Mae’r wefan yn cynnwys cronfa ddata o dros 400 o grantiau a benthyciadau EU. Dolen i wefan Rhaglenni ariannu Ewropeaidd Brig y dudalen Ffynonellau gwybodaeth Cyngor Pobl Fyddar Prydain Cyngor Pobl Anabl Prydain yw sefydliad cenedlaethol y DU o’r Mudiad Pobl Anabl byd-eang. Dolen i wefan Cyngor Pobl Fyddar Prydain Brig y dudalen Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddo l Bydd eich Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol lleol yn gallu rhoi cyngor i chi ar arian a materion eraill. Dolen i wefan Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddo Brig y dudalen Eiddo Deallusol Mae’n darparu gwybodaeth ar eiddo deallusol, hawlfraint, dyluniadau, breinlenni a nodau masnach. Dolen i wefan Eiddo Deallusol Brig y dudalen Awdurdod Addysg Lleol Gall roi gwybodaeth i chi ar arian ar gyfer addysg Dolen i wefan Awdurdod Addysg Lleol Brig y dudalen Cyngor Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archifdai Hon yw’r asiantaeth ddatblygu genedlaethol sy’n gweithio gydag ac ar ran amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifdai ac sy’n rhoi cyngor i’r llywodraeth ar bolisïau a blaenoriaethau ar gyfer y sector. Dolen i wefan Cyngor Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archifdai Brig y dudalen Cymdeithas Genedlaethol Cynghorau Lleol Mae adran cysylltiadau’r wefan yn cynnwys rhestr o gynghorau lleol sy’n gallu darparu gwybodaeth am arian yn yr ardal leol. Dolen i wefan Cymdeithas Genedlaethol Cynghorau Lleol Brig y dudalen Social Firms Mae ‘Social Firms Wales’ yr Asiantaeth Genedlaethol ar gyfer Datblygu Cwmnïau Cymdeithasol. Mae Cwmnïau Cymdeithasol yn ffordd o sefydlu busnesau sy’n creu swyddi â thâl ar gyfer pobl ag anableddau er mwyn iddynt allu gweithio o fewn gweithlu integredig. Dolen i wefan Social Firms Brig y dudalen Y Celfyddydau
Sefydliadau Ariannu Gwobrau ar gyfer Cerddorion Ifanc Mae’n rhoi dyfarniadau o hyd at £2,000 i blant rhwng 5 ac 18 oed â dawn gerddorol i’w helpu gyda chostau prynu offerynnau a mynychu gwersi cerdd a chyrsiau arbennig. Dolen i wefan Gwobrau ar gyfer Cerddorion Ifanc Brig y dudalen Cyngor Crefftau Sefydliad cenedlaethol y DU ar gyfer hyrwyddo crefftau cyfoes. Dolen i wefan Cyngor Crefftau Brig y dudalen Sefydliad ar gyfer Chwaraeon a’r Celfyddydau Mae’n cefnogi ystod eang o weithgareddau ble mae’n amlwg y bydd y gweithgaredd er lles y gymuned. Maent yn darparu grantiau i gymunedau, sefydliadau ac unigolion ar gyfer ystod o achosion chwaraeon ac artistig. Dolen i wefan Sefydliad ar gyfer Chwaraeon a’r Celfyddydau Brig y dudalen Paul Hamlyn Foundation Mae’n darparu arian ar gyfer prosiectau sy’n ymdrin â materion anghydraddoldeb ac anfantais i bobl ifanc trwy’r celfyddydau, dysgu ac addysg. Dolen i wefan Paul Hamlyn Foundation Brig y dudalen Sefydliad Cymdeithas Hawliau Perfformio Mae’n cefnogi rhaglenni ariannu i hyrwyddo, creu a pherfformio cerddoriaeth o bob math. Hefyd, mae’n darparu rhai dyfarniadau ac ysgoloriaethau ar gyfer addysg a hyfforddiant cerdd. Dolen i wefan Sefydliad Cymdeithas Hawliau Perfformio Brig y dudalen Ffynonellau gwybodaeth Cyngor Celfyddydau Gwasanaeth ar-lein dysgu a chyngor rhad ac am ddim am y celfyddydau ac adloniant sy’n rhoi cyngor o bob math am yrfaoedd yn y diwydiannau creadigol. Dolen i wefan Cyngor Celfyddydau Brig y dudalen Arts and Business Mae’n trefnu nawdd corfforaethol ar gyfer y celfyddydau ac yn datblygu partneriaethau rhwng busnesau a’r celfyddydau. Dolen i wefan Arts and Business Brig y dudalen Association of Arts Fundraisers Y sefydliad cenedlaethol sy’n cynnig cefnogaeth, cyngor a gwybodaeth i unrhyw un sy’n ymwneud â chodi arian ar gyfer y celfyddydau yn y DU. Dolen i wefan Association of Arts Fundraisers Brig y dudalen British Music Information Centre Adnodd hyrwyddo a dogfennu ar gyfer cerddoriaeth Brydeinig gyfoes. Dolen i wefan British Music Information Centre Brig y dudalen EQ Asiantaeth gydraddoldeb ac amrywiaeth cenedlaethol sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol. Dolen i wefan EQ Brig y dudalen Equity Y prif undeb llafur sy’n cynrychioli artistiaid o holl sbectrwm byd y celfyddydau ac adloniant. Dolen i wefan Equity Brig y dudalen Fund Tracer Mae’n darparu cysylltiadau â gwahanol ffynonellau ariannu a chefnogaeth ym maes y celfyddydau a diwylliant. Dolen i wefan Fund Tracer Brig y dudalen Fforwm Cenedlaethol Celfyddydau Anabledd Nod hwn yw creu cyfleoedd cyfartal ar gyfer pobl anabl ym mhob agwedd o’r celfyddydau. Dolen i wefan Fforwm Cenedlaethol Celfyddydau Brig y dudalen Rhwydwaith Celfyddydau Gwirfoddol Nod hwn yw hyrwyddo cyfranogiad yn y celfyddydau a chrefftau, ac mae’n darparu gwybodaeth, cyngor a hyfforddiant ar gyfer y rheiny yn y sector celfyddydau gwirfoddol. Dolen i wefan Rhwydwaith Celfyddydau Gwirfoddol Brig y dudalen Cymuned
Sefydliadau Ariannu Age Concern Mae Age Concern yn darparu arian i sefydliadau gwirfoddol ar gyfer prosiectau sydd er lles y gymuned hŷn. Nid ydynt yn darparu arian ar gyfer unigolion. Mathau o grantiau sydd ar gael: Grantiau Datblygu Gwasanaethau Bach, Grantiau Bach i Glybiau a chynlluniau Cyfleoedd i Wirfoddoli. Dolen i wefan Age Concern Brig y dudalen Ymddireidolaeth Adfywio’r Meysydd Glo Sefydlwyd Ymddireidolaeth Adfywio’r Meysydd Glo yn 1999 ac mae’n ymroddedig i wella ansawdd bywyd i bobl yng nghymunedau glofaol Prydain. Dolen i wefan Ymddireidolaeth Adfywio’r Meysydd Glo Brig y dudalen Comic Relief Mae Comic Relief yn ymroi i helpu i roi terfyn ar dlodi ac anghyfiawnder cymdeithasol yn y DU ac yng ngwledydd tlotaf y byd. Mae’n cefnogi grwpiau a sefydliadau gwirfoddol ledled y DU. Dolen i wefan Comic Relief Brig y dudalen Cronfa Goffa Diana Mae’r gronfa’n cefnogi gwaith yn y DU ac yn rhyngwladol. Fel arfer, mae’r Gronfa’n cynnal dau rownd grantiau yn y DU ac un rownd ryngwladol y flwyddyn. Dolen i wefan Cronfa Goffa Diana Brig y dudalen Lloyds TSB Foundation (ledled y DU) Ymddiriedolaeth rhoi grantiau sy’n rhoi grantiau i elusennau. Eu bwriad yw cefnogi a gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau elusengar sy’n helpu pobl, yn arbennig y rheiny sydd dan anfantais neu sy’n anabl, i chwarae rhan lawnach mewn cymunedau ledled Cymru a Lloegr. Dolen i wefan Lloyds TSB Foundation (ledled y DU) Brig y dudalen Plant mewn angen Mae hwn yn ariannu prosiectau sy’n cael dylanwad positif ar fywydau plant. Gall sefydliadau wneud cais yn uniongyrchol i Plant mewn Angen. Caiff grantiau ar gyfer plant unigol eu dosbarthu gan: The Frank Buttle Trust (Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr). Dolen i wefan Plant mewn angen Brig y dudalen Ymddiriedolaeth Ysgoloriaeth y Frenhines Elisabeth Mae’r ymddiriedolaeth yn rhoi dyfarniadau rhwng £2,000 a £15,000 i grefftwyr o bob oed i’w helpu i ddatblygu eu gyrfaoedd. Dolen i wefan Ymddiriedolaeth Ysgoloriaeth y Frenhines Elisabeth Brig y dudalen Ymddiriedolaeth Pilgrim Mae’r ymddiriedolaeth yn ariannu prosiectau i gefnogi’r rheiny sy’n pryderu am ddiweithdra, camddefnyddio cyffuriau, carchardai, ac adnewyddu eglwysi. Dolen i wefan Ymddiriedolaeth Pilgrim Brig y dudalen Ymddiriedolaeth y Tywysog Mae hwn yn darparu grantiau dechrau busnes ar gyfer pobl rhwng 18 a 30 oed. Dolen i wefan Ymddiriedolaeth y Tywysog Brig y dudalen Ffynonellau gwybodaeth CAB Mae gwasanaeth Cyngor ar Bopeth yn helpu pobl i ddatrys eu problemau cyfreithiol, ariannol a phroblemau eraill trwy ddarparu cyngor annibynnol, cyfrinachol yn rhad ac am ddim, a thrwy ddylanwadu ar wneuthurwyr polisïau. Dolen i wefan CAB Brig y dudalen Cyngor Ffoaduriaid Hwn yw’r sefydliad mwyaf yn y DU sy’n gweithio gyda cheiswyr lloches a ffoaduriaid. Nid yn unig y mae’n rhoi help a chefnogaeth, ond mae hefyd yn gweithio gyda cheiswyr lloches a ffoaduriaid i sicrhau bod eu hanghenion a’u pryderon yn cael sylw. Dolen i wefan Cyngor Ffoaduriaid Brig y dudalen Support 4 Learning Mae’n darparu gwybodaeth ynglŷn â’r arian sydd ar gael i fyfyrwyr, gyda chyfeirlyfr gwobrau, cronfeydd a grantiau a manylion cyswllt perthnasol. Dolen i wefan Support 4 Learning Brig y dudalen Treftadaeth
Sefydliadau Ariannu All Churches Trust Mae’n darparu grantiau i gefnogi eglwysi ac elusennau sy’n cadw treftadaeth y DU. Dolen i wefan All Churches Trust Brig y dudalen Historic Churches Preservation Fund Prif bwrpas yr Ymddiriedolaeth yw helpu eglwysi sydd o leiaf gan mlwydd oed lle mae angen gwaith atgyweirio ar yr adeiladwaith. Dolen i wefan Historic Churches Preservation Fund Brig y dudalen Ymddiriedolaeth Adapt Ei nod yw gwelliannau cyfalaf a hirdymor i gyfleusterau mynediad i leoliadau treftadaeth a’r celfyddydau ar gyfer pobl anabl. Dolen i wefan Ymddiriedolaeth Adapt Brig y dudalen Cronfa Treftadaeth Bensaernïol Mae’n hyrwyddo gwarchod adeiladau hanesyddol yn y DU. Mae’n cyflawni hyn trwy ddarparu cyngor, gwybodaeth a chymorth ariannol ar ffurf grantiau a benthyciadau llog isel i brosiectau y mae ymddiriedolaethau gwarchod ac elusennau eraill ledled y DU yn ymgymryd â nhw. Dolen i wefan Cronfa Treftadaeth Bensaernïol Brig y dudalen Ymddiriedolaeth Pilgrim Mae’r ymddiriedolaeth yn ariannu prosiectau i gefnogi’r rheiny sy’n pryderu am ddiweithdra, camddefnyddio cyffuriau, carchardai, ac adnewyddu eglwysi. Dolen i wefan Ymddiriedolaeth Pilgrim Brig y dudalen Chwaraeon
Sefydliadau Ariannu Sefydliad ar gyfer Chwaraeon a’r Celfyddydau Mae’n cefnogi ystod eang o weithgareddau ble mae’n amlwg y bydd y gweithgaredd er lles y gymuned. Maent yn darparu grantiau i gymunedau, sefydliadau ac unigolion ar gyfer ystod o achosion chwaraeon ac artistig. Dolen i wefan Sefydliad ar gyfer Chwaraeon a’r Celfyddydau Brig y dudalen Sport Relief Mae arian Sport Relief yn cael ei wario ar draws y DU mewn partneriaeth â Sefydliadau Cymunedol. Dolen i wefan Sport Relief Brig y dudalen SportsAid Mae’n rhaid i ymgeiswyr gystadlu ar ran Lloegr. Maent yn canolbwyntio ar bobl rhwng 12 ac 16 oed mewn disgyblaethau i bobl ifanc abl. Gall Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol gyflwyno achosion arbennig ar gyfer athletwyr rhwng 16 ac 18 oed, ac nid oes cyfyngiad oed ar gyfer y disgyblaethau anabl. Dolen i wefan SportsAid Brig y dudalen Sportsmatch Cynllun cymell noddi llawr gwlad, sy’n rhoi arian cyfatebol punt am bunt i nawdd masnachol. Dolen i wefan Sportsmatch Brig y dudalen Football Foundation Mae’n goruchwylio buddsoddiadau mewn pêl-droed llawr gwlad. Dolen i wefan Football Foundation Brig y dudalen Ffynonellau gwybodaeth Menter Ffitrwydd Cynhwysol Mae hwn yn hyrwyddo ac yn cefnogi cyfleodd i bobl ag anableddau gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol. Dolen i wefan Menter Ffitrwydd Cynhwysol Brig y dudalen NSPCC (Amddiffyn plant mewn chwaraeon) Prif elusen y DU sy’n arbenigo mewn amddiffyn plant ac atal creulondeb i blant. Dolen i wefan NSPCC (Amddiffyn plant mewn chwaraeon)
|