Sefydlu angen am eich prosiect
Ar gyfer unrhyw gais grant bydd rhaid i chi arddangos fod angen ar gyfer eich prosiect, a bod eich cynnig yn cynrychioli dull da o gyrraedd yr angen hwnnw. Mae nifer o ymgeiswyr yn credu fod angen ar gyfer eu prosiect, ond mae angen i chi arddangos hynny i’ch ariannwr Loteri er mwyn bod a chyfle i dderbyn grant.
Dylech egluro i’ch ariannwr Loteri:
- yr anghenion sydd gan eich defnyddwyr, neu’r bwlch y gobeithiwch ei lenwi
- sut ydych yn gwybod fod yr anghenion yma ganddynt
- sut bydd eich prosiect yn cyrraedd yr anghenion hynny
- beth fydd yn newid neu wella ar gyfer defnyddwyr y prosiect.
Gall y dystiolaeth o angen gael ei ystyried i fod yn wan heb hwn, gan y bydd yn ymddangos i fynegi eich barn chi yn unig.
Bydd lefel y dystiolaeth y disgwylir i chi ei ddangos yn dibynnu fel arfer ar swm y grant yr ydych yn gwneud cais amdano. Os ydych yn chwilio am grant gweddol fychan gallwch gynnal arolwg ymysg eich defnyddwyr presennol, gan ofyn am eu barn nhw am gynnig newydd. Ar gyfer grant mwy, efallai bydd angen i chi wneud gwerthusiad opsiynau llawn. Bydd hwn yn edrych ar y dulliau gwahanol o gyrraedd yr angen ac adnabod y dewis sydd orau a pham.
Dyma rai o’r ffyrdd sydd o gasglu gwybodaeth i ddangos angen am eich prosiect.
Ymchwil
Gellir cynnal ymchwil mewn nifer o ddulliau a manylder gwahanol. I ddechrau eich ymchwil dylech edrych ar hen adroddiadau ymchwil sy’n berthnasol i’r prosiect. Bydd y rhain yn dangos pa angen am eich prosiect sydd eisoes wedi ei arddangos ac yn eich helpu i adnabod pa wybodaeth bellach sydd ei angen arnoch.
Wedi derbyn y wybodaeth honno dylech dargedu eich ymchwil at y bylchau a adnabuwyd, ac ymgynghori â defnyddwyr potensial eich prosiect iddynt egluro eu hanghenion. Efallai y byddwch am gynnal ymgynghoriadau â holiaduron i’ch helpu i adnabod eu gwir anghenion, er enghraifft trwy grwpiau ffocws, cyfweliadau, gweithdai a holiaduron. Yn eich cais, disgrifiwch pwy oedd ynghlwm â’r ymgynghoriad, er enghraifft aelodau staff, arbenigwyr allanol neu ddefnyddwyr prosiect.
Cyd-destun – beth arall sy’n digwydd?
Dylech ddangos eich bod wedi ystyried gwaith unigolion, grwpiau a sefydliadau eraill wrth edrych ar yr angen am eich prosiect. Dylai hwn gynnwys adnabod unrhyw waith tebyg yn yr ardal neu gyda’ch defnyddwyr chi a pha gynlluniau sydd o fewn sefydliadau statudol, gwirfoddol, rheoli neu/ac ariannu i gwrdd â’r angen yma. Dylech hefyd ystyried gwaith partneriaethau neu rwydweithiau strategol sy’n lleol i’ch maes gwaith, er enghraifft, awdurdodau lleol, ymddiriedolaeth gofal iechyd, yr heddlu. Gall hwn hefyd gynnwys arianwyr y Loteri sydd â blaenoriaethau penodol o fewn eich maes.
Tystiolaethu’r angen
Wrth egluro’r angen am eich prosiect yn eich cais, dylech gymryd yn ganiataol nad oes gan yr ariannwr Loteri yr ydych yn gwneud cais iddo unrhyw wybodaeth am eich maes gwaith, felly eglurwch bob pwynt yn glir a chywir. Ffordd dda o brofi hyn yw drwy gael rhywun annibynnol o’ch sefydliad sydd ag ychydig neu ddim gwybodaeth am eich maes gwaith i ddarllen drwy eich cais am brosiect. Dylai’ch prosiect gyfeirio yn uniongyrchol at yr angen yr ydych wedi ei adnabod.
Prawf peilot
Os yw’ch prosiect yn ffordd newydd o weithio yna efallai y bydd gwerth mewn rhedeg prawf peilot yn gyntaf. Rho beilot y cyfle i chi brofi’ch dull o weithio. Mae’n bwysig eich bod yn gwerthuso eich peilot fel y gallwch fod yn siŵr fod eich dull o weithio yn effeithiol. Os byddwch yna yn dymuno datblygu prosiect yn dilyn cynnal peilot, bydd yr adroddiad gwerthuso yn bwysig iawn.
Awgrymiadau
- Dylech ofyn i’r bobl fydd yn cael budd o’ch prosiect beth yw eu hanghenion a sut dylid cyfeirio atynt ar bob amser
- Peidiwch â chymryd yn ganiataol fod eich ariannwr Loteri yn gwybod am yr angen am eich prosiect - mae angen i chi egluro hynny’n glir
Cymorth ychwanegol
Bydd eich asiantaethau cymorth ac asiantaethau arbenigol lleol yn eich maes gwaith yn gwybod pa ymchwil sydd eisoes wedi ei gynnal i gefnogi’r angen am eich prosiect.
