Yn dyfarnu arian Y Loteri Genedlaethol.

Arian y Loteri

Cymraeg | English   

Ffoniwch ni ar 0845 275 0000
Ffon testun 0845 275 0022


   
 

Telerau ac Amodau

Defnyddio ein gwefan

Gallwch ddefnyddio gwefan Arian y Loteri Genedlaethol yn amodol ar y telerau a’r amodau a nodir ar y dudalen hon. Mae mynd i mewn i’r wefan hon a’i defnyddio’n gyfystyr â’ch bod yn derbyn y telerau a’r amodau sydd mewn grym ar amser ei ddefnyddio. 

 

Eiddo deallusol/Hawlfraint

Mae hawlfraint y Loteri Genedlaethol neu ei drwyddedwyr ar y deunyddiau (gan gynnwys testun, delweddau, logos) ar y wefan hon. Nid oes hawl gennych i ailgyhoeddi, aildrosglwyddo, ailddosbarthu na darparu’r deunydd mewn unrhyw fodd arall i unrhyw grŵp nac mewn unrhyw gyfrwng arall heb ganiatâd blaenorol a phriodol a hynny’n ysgrifenedig.   

 

Mae’r enwau, y delweddau a’r logos sy’n nodi Achosion Da y Loteri Genedlaethol yn nodau perchnegol Achosion Da y Loteri Genedlaethol ac ni chaniateir eu hatgynhyrchu heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan dîm gwefan Arian y Loteri. 

 

Dylid anfon ceisiadau am cyfryw ganiatâd i: 

Cronfa Loteri Fawr  

1 Plough Place,  

Llundain, EC4A 1DE 

Ffôn: 0207 211 1800  

Ffacs:0207 211 1750 

E-bost: webmaster@lotteryfunding.org.uk 

 

Rhowch fanylion yr hyn rydych yn bwriadu ei wneud gyda’r deunydd perthnasol gan gynnwys eich manylion cyswllt: - enw, cyfeiriad, rhif ffôn, rhif ffacs ac e-bost. 

 

Polisi cysylltu

  

Nid oes rhaid i chi ofyn caniatâd i gysylltu’n uniongyrchol i dudalennau sy’n westeiwyr ar y wefan hon. Ond nid ydym yn caniatáu i’n tudalennau ni gael eu llwytho i fframiau ar eich gwefan. Rhaid i’n tudalennau lwytho i ffenest gyfan y defnyddiwr. 

 

Yr unig rai yr ydym yn cysylltu iddynt yw Ariannwyr y Loteri, y rhai sy’n derbyn grantiau a gwefannau sy’n rhoi gwybodaeth ddefnyddiol sy’n ychwanegu at ein gwasanaethau gwybodaeth ni ein hunain. 

 

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys, cywirdeb, barn na chysylltiadau o’r gwefannau hyn. 

 

Gwadiad

Rydych yn cydnabod eich bod yn defnyddio’r wefan ar eich menter eich hun yn gyfan gwbl ac na fyddwn yn atebol am unrhyw golled (boed uniongyrchol, anuniongyrchol, damweiniol neu ganlyniadol) o ganlyniad i’ch defnydd o’r wefan a’r deunydd.  

 

Darperir yr holl ddeunydd ar sail "FEL AG Y MAE" yn unig. Ni allwn warantu y bydd y wefan nac unrhyw ddeunydd a ddarperir yn cwrdd ag unrhyw anghenion neu ofynion sydd gennych nac y bydd yn gyfan, yn ddi-wall, nac yn fanwl gywir nac y bydd ar gael heb unrhyw ymyriad, nam neu wall. Yn unol â hynny, ac i’r graddau uchaf a ganiateir gan gyfraith berthnasol, rydym trwy hyn yn ymwadu â phob gwarant ac amod, boed hwy’n benodol, ymhlyg neu’n statudol, ynglŷn â’r wefan a’r deunydd, gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i, unrhyw warant bodlonrwydd safon neu addasrwydd ar gyfer diben arbennig  a pheidio â thorri ar hawliau trydydd parti.   

 

Byddwn yn ceisio cywiro unrhyw wallau neu esgeulustod cyn gynted ag y bod modd ar ôl cael gwybod amdanynt.   

 

Rydych yn cytuno y byddwch yn cydymffurfio gyda’r holl ddeddfau a rheoliadau perthnasol ac na fyddwch yn defnyddio’r wefan yn fwriadol ar gyfer unrhyw ddibenion anweddus neu anghyfreithlon  (gan gynnwys torri unrhyw Hawliau Eiddo Deallusol). 

 

Datganiad preifatrwydd

Os ydych yn ddefnyddiwr gyda mynediad cyhoedd cyffredinol neu anhysbys nid yw gwefan Arian y Loteri yn storio na chadw unrhyw wybodaeth bersonol, ond mae’n logio cyfeiriad Protocol Rhyngrwyd y defnyddiwr sy’n cael ei adnabod yn awtomatig gan y gweinyddwr gwe. 

Nid ydym yn defnyddio cwcis ar gyfer casglu gwybodaeth defnyddwyr. Ni fyddwn yn casglu unrhyw wybodaeth amdanoch oni bai am eich cyfeiriad Protocol Rhyngrwyd, sydd yn cael ei ddefnyddio i gofnodi’r nifer o ymwelwyr i’n gwefan. 

 

Bydd data personol (hynny yw. gwybodaeth a all eich adnabod) a gaiff ei fewngofnodi i wefan Arian y Loteri yn cael ei ddefnyddio i ateb i’ch adborth yn unig.  Ni fyddwn yn ei basio ymlaen i unrhyw drydydd parti heb eich caniatad chi. 

 

Dim ond gwefan Arian y Loteri yn www.lotteryfunding.org.uk y mae’r datganiad preifatrwydd yma yn ymdrin â.  Nid yw’r datganiad yma yn ymdrin â dolenni sydd o fewn y safle yma i wefannau eraill. 

 

Awarding funds from The National Lottery