|
Roedd dau o glybiau’r uwch-gynghrair, Asiaid Cymru a Gymkhana Caerdydd, eisiau cyllid i ddatblygu eu chwaraewyr iau. Roedd y clybiau angen adran i ieuenctid ac offer chwaraeon newydd ac roeddent yn dymuno hyfforddi aelodau dethol i fod yn hyfforddwyr cymwys.
Roedd Cymdeithas Hyfforddwyr Criced Caerdydd a’r Fro a Rhaglen Fyw’n Iach Grangetown a Thre-Bute yn ymwneud â’r prosiect. Darparwyd prosiect hyfforddi lleol ar lefel gyffredin ganddynt.
Pwy roddodd yr arian?
Cyngor Chwaraeon Cymru
Beth oedd y rhaglen grant?
Cist Gymunedol SPORTLOT
Faint o arian a roddwyd?
£750
Ymhle mae’r prosiect wedi’i leoli?
Caerdydd
Pam fod y prosiect hwn mor dda?
Mae’r prosiect yn agor drysau newydd ar gyfer cymryd rhan mewn chwaraeon, yn arbennig i bobl ieuainc yn byw yn ardaloedd dinesig canol Caerdydd. Mae’r cais yn targedu maes blaenoriaeth ar gyfer derbyn cefnogaeth - cymunedau Duon a lleiafrifoedd ethnig. Mae’r clwb criced wedi datblygu rhaglen gynaladwy a gyflwynir drwy gyfrwng arweinwyr a hyfforddwyr gwirfoddol. Cyllidwyd cymwysterau hyfforddi a chymorth cyntaf ar gyfer y gwirfoddolwyr gan grant y Gist Gymunedol. Mae’r dyfarniad yn darparu offer hanfodol ar gyfer y clwb i chwaraewyr ieuainc newydd.
Roedd hwn yn gais da a fydd o gymorth i dwf criced mewn ardal ddinesig ac yn datblygu cyfleoedd newydd i gymunedau Duon a lleiafrifoedd ethnig. Mae’n bur debyg na fyddai’r rhaglen wedi cael ei chynnal heb gyllid y Loteri.
Ble mae cael gwybodaeth bellach?
www.cyngor-chwaraeon-cymru.co.uk
-----
Return to Lottery Funders list
|