Yn dyfarnu arian Y Loteri Genedlaethol.

Arian y Loteri

Cymraeg | English   
 

The Power Project


Location: England

 

 

Enw’r prosiect

The Power Project 

 

Pwy yw’r ymgeisydd?

Quarry Bank Mill Trust  

 

Beth yw’r prosiect?

Quarry Bank Mill, a sefydlwyd yn 1784, oedd un o’r melinau nyddu cotwm pŵer dŵr cyntaf. Bydd y prosiect hwn yn adfer yr adeiladau hanesyddol yn  Quarry Bank Mill ac yn gwella’r profiad i ymwelwyr yn fawr, gan gynnwys arddangosfa’r felin o beiriannau diwydiannol grym ager. 

 

Mae traean yr adeiladau hanesyddol ar y safle wedi cael eu trwsio a’u hadfer ac yn agored i’r cyhoedd.  

 

Pwy roddodd yr arian?

Cronfa Dreftadaeth y Loteri 

 

Beth oedd y rhaglen grant? 

Grantiau Treftadaeth – ar gyfer grantiau o £50,000 a mwy. 

 

Faint o arian a roddwyd?

Dyfarnwyd swm o £537,000. Roedd cyfanswm cost y prosiect dros £800,000; darparodd y prosiect y gweddill o ffynonellau nawdd eraill.  

 

Ble mae’r prosiect wedi’i leoli?

Styal, ger Wilmslow yn Swydd Gaer. 

 

Pam roedd hwn yn brosiect mor dda?

Helpodd y prosiect i warchod safle treftadaeth ddiwylliannol bwysig, yn ogystal в gwella mynediad i ymwelwyr a dealltwriaeth o’r dreftadaeth. Mae’r prosiect wedi ychwanegu dros 300 metr sgwвr o ofod arddangos, sydd wedi cynyddu cyflwyniad Quarry Bank Mill o rфl pŵer dŵr a stкm yn y chwyldro diwydiannol yn fawr iawn. Gall ymwelwyr weld peiriannau tecstilau o’r 19fed ganrif yn gweithio a gwylio melin ddŵr fwyaf pwerus Prydain ar waith.  

 

Darparodd y prosiect ffigyrau ymwelwyr realistig gyda’u cais (mae tua 120,000 o ymwelwyr yn dod i Quarry Bank Mill bob blwyddyn, tua 40,000 ohonynt yn blant ysgol), gan gynnwys sut gallai’r prosiect hwn helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr. Roedd y prosiect hefyd yn defnyddio sgiliau staff cyfredol a gwirfoddolwyr i helpu i ddatblygu’r prosiect.    

 

Ble galla i gael gwybod mwy?

www.quarrybankmill.org.uk 

 

For more information visit the website:

www.quarrybankmill.org.uk

 

 

-----

Return to Lottery Funders list

Ariannu

 

Chwiliad ariannu

 

Awarding funds from The National Lottery